Barack Obama - wedi newid meddwl
Mae’n ymddangos bod yr Unol Daleithiau wedi newid eu meddwl tros yr alwad am atal hedfan uwchben Libya.

Mae llysgennad y wlad yn y Cenhedloedd Unedig wedi dweud eu bod bellach yn fodlon cefnogi’r cam yn rhan “o amrywiaeth eang o ddulliau” i atal y Cyrnol Gaddafi rhag ymosod ar wrthryfelwyr.

Yn awr, mae Llywodraeth Prydain, sydd wedi bod yn frwd o blaid y syniad, yn gobeithio y bydd pleidlais gan y Cenhedloedd Unedig heddiw yn caniatáu’r gweithredu.

“Mae yna newid mawr wedi bod yn safbwynt y Tŷ Gwyn,” meddai’r Gweinidog Tramor, Alistair Burt wrth y BBC. “Maen nhw’n sylweddoli bod rhaid gwnued rhywbeth yn ychwanegol at ynysu Libya ac at y rhybuddion sydd wedi bod eisoes.”

Tan hyn, roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi bod yn amheus o weithredu, gan ofni y gallai arwain at ryfel gyda Libya.

Y gred yw y bydd angen ymosod ar rai safleoedd yn Libya er mwyn atal awyrennau Gaddafi rhag hedfan – fe fyddai’n rhaid dinistrio gallu’r wlad i danio at awyrennau rhyngwladol wrth iddyn nhw blismona’r gwaharddiad.

Gaddafi’n dal i ymosod

Yn Libya ei hun, mae’r gwrthryfelwyr yn brwydro i ddal gafael ac ymladd am ddinas strategol bwysig yn nwyrain y wlad. Mae nifer o gyrff wedi eu gweld yn ardal Ajdabiya.