Dechrau'r protestiadau ym mis Chwefror
Mae milwyr y Llywodraeth wedi ymosod ar brotestwyr mewn sgwâr ym Mhrifddinas Bahrain heddiw, ddiwrnod ar ôl i’r wlad gyhoeddi stad o argyfwng.

Fe gafodd nwy dagrau ei ddefnyddio yn Sgwâr y Perlau ym Manama ychydig wedi toriad y wawr heddiw ar ôl i o leiaf ddau o bobl gael eu lladd mewn gwrthdrawiadau ddoe.

Fe fyddai cael gwared ar y protestwyr o’r sgwâr yn cael ei hystyried yn fuddugoliaeth symbolaidd i’r Brenin ar ôl iddo gael ei feirniadu am wahodd milwyr o wledydd cyfagos i helpu.

Galw ar ddinasyddion Prydain i adael

Bellach, mae Llywodraeth Prydain yn galw ar ddinasyddion gwledydd Prydain i adael Bahrain cyn gynted ag y bo modd ac wedi addo helpu, os bydd angen.

Mae’r Swyddfa Dramor  – sy’n amcangyfrif bod miloedd o Brydeinwyr yn y wlad ar hyn o bryd – wedi diweddaru eu cyngor ar ôl cyhoeddi’r stad argyfwng ddoe.

Mae’r Swyddfa’n cynghori pobol i beidio â theithio i Fahrain ac yn galw ar Brydeinwyr sydd yno i adael pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

Mae protestwyr sy’n cael eu harwain gan y mwyafrif Shiiaidd yn ceisio mwy o hawliau gwleidyddol gan arweinwyr y Sunni, sy’n cynnwys y teulu brenhinol.

Y cefndir

Mae Bahrain yn gyfaill allweddol i’r Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol ac mae gwledydd y Gorllewin yn poeni y byddai cryfhau dwylo’r mwyafrif Shiiaidd yno hefyd yn cryfhau dylanwad Iran.