Y dinistr wedi'r tsunami yn Japan
Gwaethygu mae’r argyfwng dyngarol ac economaidd yn Japan ar ôl y daeargryn a’r tsunami ddydd Gwener pryd y cafodd o leiaf 10,000 o bobl eu lladd.

Mae miliynau o bobl wedi treulio trydedd noson heb ddŵr, bwyd na gwres ar arfordir gogledd-ddwyreiniol y wlad, ac mae pryder cynyddol am economi’r wlad.

Mae’r llywodraeth wedi anfon 100,000 o filwyr i arwain y gwaith o rannu 120,000 o flancedi, 120,000 o boteli o ddŵr, a 29,000 o alwyni o betrol yn ogystal â bwyd i’r ardaloedd sy’n dioddef.

Mae o leiaf 1.4 miliwn o gartrefi wedi bod heb ddŵr ers i’r daeargryn daro, ac mae tua 1.9 o gartrefi heb drydan. Gyda gorsafoedd niwclear wedi eu difrodi mae disgwyl iddi gymryd rhai dyddiau eto i adfer y cyflenwad.

Mae’r mynegai marchnad stoc Nikkei 225 wedi llithro 634 o bwyntiau, neu 6.2%, a cyfranddaliadau rhai o’r cwmnïau mawr fel Honda, Toyota a Toshiba wedi cwympo’n sylweddol.

Mae Banc Japan wedi ceisio sefydlogi’r marchnadoedd arian trwy roi chwistrelliad o 15 triliwn yen (£114.4 biliwn) i economi’r wlad.

Ar ben y cwbl mae ofnau am tsunami arall arall heddiw, wrth i un o ôl-gryniadau’r daeargryn gyrraedd 6.2 ar raddfa Richter.