Tokyo, Japan
Mae daeargryn 7.9 ar y raddfa Richter wedi taro arfordir gogledd-ddwyrain Japan, gan ysgwyd adeiladau yn y brifddinas Tokyo am sawl munud.

Mae swyddfa dywydd y wlad wedi rhybuddio y gallai tsunami 20 troedfedd o uchder daro’r arfordir ger rhanbarth Miyagi.

Dywedodd yr asiantaeth fod y daeargryn wedi taro am 2.46pm amser Japan heddiw, tua 80 milltir o arfordir dwyreiniol y wlad.

Mae sawl daeargryn llai wedi taro’r un ardal dros y dyddiau diwethaf, gan gynnwys un 7.3 ar y raddfa Richter ddydd Mercher.