Tatyana Felgenhauer (Llun Ekho Moskvy)
Mae disgwyl i ddyn, 48, ymddangos gerbron llys yn Rwsia ddydd Mawrth, yn dilyn ymosodiad ar gyflwynwraig gorsaf radio annibynnol.

Cafodd Tatyana Felgenhauer ei thrywanu yn ei gwddf ddydd Llun yn swyddfeydd gorsaf Ekho Moskvy yng nghanol Moscow. Bellach mae hi mewn ward ysbyty arbenigol.

Yn ôl Boris Grits sydd dan amheuaeth o ymosod arni, roedd wedi bod yn cysylltu â Tatyana Felgenhauer trwy “delepathi” am bum mlynedd.

Yr unig orsaf annibynnol

Ekho Moskvy yw’r unig orsaf newyddion annibynnol yn Rwsia ac mae wedi’i beirniadu sawl gwaith gan gyfryngau sy’n eiddo i’r wladwriaeth.

Bu’n rhaid i gyflwynwraig arall o’r orsaf, Yulia Latynia, ffoi’r wlad ym mis Medi wedi i’w char fynd ar dân – mae nifer yn amau bod y car wedi’i losgi’n fwriadol.

Mae newyddiadurwyr annibynnol yn Rwsia yn dweud nad ydyn nhw’n cael eu hamddiffyn wrth i’r awyrgylch gwleidyddol yn y wlad droi’n fwy cas.