Donald Trump - cytundeb niwclear Iran yn "embaras"
Mae Theresa May wedi apelio’n uniongyrchol ar arlywydd yr Unol Daleithiau i beidio â dileu’r cytundeb rhyngwladol ag Iran ar arfau niwclear.

Fe siaradodd prif weinidog Prydain gyda Donald Trump nos Fawrth, ddyddiau cyn y mae disgwyl iddo gyhoeddi ei fod yn anfodlon dilysu’r cytundeb a gafodd ei daro yn 2015.

Yn ôl Theresa May, mae’r cytundeb yn “hollbwysig o ran diogelwch y Dwyrain Canol”, ac fe bwysleisiodd hefyd bod angen i’r cytundeb gael ei fonitro “yn ofalus” a’r “weithredu’n gywir”.

Ond mae Donald Trump wedi bod yn gyson ei feirniadaeth o’r cytundeb lle mae Iran yn cytuno i roi’r gorau i raglen i ddatblygu arfau niwclear yn gyfnewid am godi sancsiynau economaidd. Y mis diwethaf, fe alwodd y cytundeb yn “embaras” i’r Unol Daleithiau.

Fodd bynnag, mae’r gwledydd eraill sydd wedi arwyddo’r cytundeb – Prydain, Ffrainc a’r Almaen – yn dal i fod yn gryf o’i blaid.