Wrth i rai o’r bythau pleidleisio lwyddo i agor yn refferendwm annibyniaeth Catalwnia, mae helyntion wedi torri allan rhwng yr heddlu a phleidleiswyr.

Mae’r refferendwm wedi cael ei wahardd gan lywodraeth ganolog Sbaen a’r heddlu wedi cael eu gorchymyn i gadw gorsafoedd pleidleisio ar gau.

Gyda phrotestwyr wedi bod yn meddiannu rhai o’r ysgolion mewn ymgais i’w cadw’n agored, mae’r heddlu wedi bod yn ceisio’u rhwystro.

Yng ngorsaf bleidleisio San Julia de Ramis, gerllaw dinas Girona, lle’r oedd disgwyl i arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, i fod i fwrw ei bleidlais y bore yma, mae’r heddlu wedi torri eu ffordd i mewn i’r adeilad, a defnyddio eu pastynnau i wasgaru’r dorf y tu allan.

Yn y cyfamser, mae llywodraeth Catalwnia wedi cyhoeddi y gall pobl bleidleisio mewn unrhyw orsaf oddi ar gofrestr ganolog, ac y gallan nhw argraffu papurau pleidleisio yn eu cartrefi.