Mae plant, rhieni ac ymgyrchwyr wedi dechrau meddiannu ysgolion yng Nghatalwnia ar drothwy dyddiad refferendwm annibyniaeth sydd wedi cael ei drefnu.

Mae’r ysgolion wedi cael eu troi’n orsafoedd pleidleisio ar gyfer y refferendwm sy’n cael ei ystyried yn un anghyfansoddiadol gan lywodraeth Sbaen.

Mae sesiynau ioga, ffilmiau a phicnic ymhlith y gweithgareddau sydd wedi cael eu trefnu ar draws 2,315 o orsafoedd pleidleisio mewn ymgais i atal yr heddlu rhag eu cau nhw.

Mae heddlu Catalwnia wedi cael gorchymyn gan lysoedd Sbaen i gau’r holl adeiladau yn ystod y dydd yfory, a hynny gan ddefnyddio dulliau di-drais.

Ond fe allai ymateb swyddogion i’r gorchymyn fod yn allweddol i ganlyniad y refferendwm yn y pen draw.

Cefnogaeth ledled Ewrop

Wrth i Gatalwnia baratoi ar gyfer y refferendwm, mae llygaid y byd ar y wlad a allai fod y nesaf i fynd yn annibynnol.

Fe allai canlyniad positif ysgogi gwledydd eraill i ennill eu hannibyniaeth, gan roi mwy o bwysau eto fyth ar yr Undeb Ewropeaidd, sydd wrthi’n trafod telerau ymadael Prydain.

Ond ar y cyfan, dyw arweinwyr gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ddim yn lleisio barn am Gatalwnia y naill ffordd na’r llall.

Ond mae Fflandrys yn gweld llygedyn o obaith yn y refferendwm ac yn cydymdeimlo â honiadau bod Catalwnia yn rhy gyfoethog i adael Sbaen.

Dywedodd llefarydd y senedd yno, Jan Peumans: “Dw i’n credu bod yna ddeinamig [tuag at annibyniaeth] eisoes yn Ewrop. Does ond angen i chi edrych ar yr Alban. Mae’n esblygiad na all yr un o lywodraethau Ewrop ei osgoi.”

Mae arweinwyr y Gynghrair Ogleddol yn Lombardy a Veneto yn yr Eidal wedi beirniadu’r weithred o arestio arweinwyr yng Nghatalwnia, ac mae Arlywydd Feneswela, Nicolas Maduro hefyd wedi anfon neges o gefnogaeth i Gatalwnia.