Mae Iran wedi mynnu bwrw ymlaen â rhaglen datblygu taflegrau’r wlad er gwaethaf sylwadau diweddar gan Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Wrth siarad mewn parêd milwrol heddiw dywedodd Arlywydd Iran, Hassan Rouhani: “Byddwn yn cryfhau ein gallu amddiffynnol a milwrol … os ydych chi eisiau hynny neu beidio.”

Roedd yr arweinydd yn cyfeirio’n uniongyrchol at araith Arlywydd yr Unol Daleithiau yng nghynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Yn ystod yr araith gwnaeth Donald Trump gyhuddo Iran o gefnogi brawychwyr a galwodd Tehran yn “unbennaeth lygredig” a “chyfundrefn waedlyd.”

Dywedodd Hassan Rouhani y byddai’r wlad hefyd yn parhau i gefnogi “pobol Yemen, Syria a Phalestina rhag gormes,” gan gyfeirio at rôl Iran yn rhyfeloedd y gwledydd hynny.