Wrth i gorwynt Irma symud yn ei flaen i Giwba, mae Llywodraeth Prydain yn paratoi i roi cymorth i drigolion yn Fflorida sydd wedi cael eu heffeithio.
Mae’r corwynt yn cryfhau, ac mae bellach yn ôl yng nghategori pump – y categori uchaf – ar ôl cael ei is-raddio’n gynharach.
Dywedodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May bod cynlluniau ar y gweill i sicrhau bod trigolion gwledydd Prydain yn ddiogel wrth i filoedd o bobol geisio ffoi o’r ardaloedd sy’n debygol o gael eu taro.
Ond yn ôl yr awdurdodau, “mae amser yn rhedeg allan”.
Corwynt Irma ar ei ffordd
Florida Keys fydd yr ardal gyntaf i gael ei tharo ddydd Sul, ac mae adroddiadau bod yr awdurdodau’n ystyried tynnu’r gwasanaethau brys allan o’r ynysoedd.
Mae teithiau awyr o Miami a Fort Lauderdale wedi dod i ben am y tro, a bydd teithiau awyr o Orlando a Tampa yn dod i ben heno (nos Sadwrn).
Mae disgwyl i’r corwynt daro Florida Keys a de’r dalaith ddydd Sul, ac mae’r awdurdodau’n darogan y bydd y storm yn cyrraedd uchder o 12 troedfedd.
Mae gwyntoedd erbyn hyn wedi codi i 160 milltir yr awr ar ôl gostegu am gyfnod.
Y Caribî
Roedd newyddion drwg eto i rai o ynysoedd y Caribî, wrth i arbenigwyr ddarogan ail gorwynt categori pump ar gyflymdra o 155 milltir yr awr.
Mae disgwyl i gorwynt Jose daro ymylon Ynysoedd Leeward ddydd Sul.
Mae rhybudd hefyd i ynysoedd Barbuda ac Antigua, ynghyd ag Anguilla ac Ynysoedd Virgin Prydain, lle bu farw 20 o bobol ddydd Mercher.
Cymorth
Mae tiriogaethau Prydain yn disgwyl derbyn £32 miliwn o gymorth.
Yn dilyn cyfarfod pwyllgor Cobra, dywedodd y Prif Weinidog, Theresa May: “Fe glywais i’n uniongyrchol gan ein conswl cyffredinol ym Miami am y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i drigolion Prydain sy’n byw yn Fflorida ac i dwristiaid o Brydain yn Fflorida.
“Rydym, wrth gwrs, yn cydweithio ag awdurdodau’r Unol Daleithiau i sicrhau bod pob cefnogaeth ar gael a bod popeth sy’n gallu cael ei wneud yn cael ei wneud cyn i gorwynt Irma gyrraedd Fflorida.”
Mae disgwyl i’r corwynt gyrraedd ynysoedd Turks a Caicos ddydd Sadwrn.
Mae’r Swyddfa Dramor wedi cynghori pobol i ffonio’r llinell 020 7008 0000 am wybodaeth.