Mae pennaeth corff twristiaeth Gwlad Pwyl wedi cael ei ddiswyddo yn sgil sylwadau am gofeb Auschwitz ac amgueddfa hanes Iddewig.

Mae’n debyg fod Marek Olszewski wedi dweud ei fod am newid teithiau sy’n cael eu darparu ar gyfer newyddiadurwyr tramor, fel nad oedden nhw’n ymweld â’r safleoedd.

Yn siarad â phapur dyddiol y Gazeta Wyborcza ,dywedodd ei fod am “hybu gwerthoedd diwylliant Gwlad Pwyl”, ac “nad oedd angen dangos lleoedd a digwyddiadau sydd yn gysylltiedig â chenhedloedd eraill”.

Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, Witold Banka, ar Twitter ei fod yn mynd i ddiswyddo’r pennaeth yn syth dros y sylwadau “gwarthus.”