Mae Goruchaf Lys India wedi gwrthod rhoi’r hawl i ddynion Mwslimaidd allu ysgaru eu gwragedd ar unwaith, gan alw’r arfer yn un “anghyfansoddiadol”.

Fe fu’r fainc – a oedd yn cynnwys pump o farnwyr o amrywiol grefyddau – yn ystyried yr achos am dri mis, cyn cyhoeddi ei dyfarniad heddiw.

Roedd wedi derbyn deisebau gan saith o ferched Mwslimaidd yr oedd eu gwyr wedi’u hysgaru trwy broses sy’n cael ei galw ‘y talaq triphlyg’.

The decision was widely praised by women’s rights activists as a step towards granting Muslim women greater equality and justice.

“Mae heddiw’n ddiwrnod hapus, ac yn ddiwrnod hanesyddol,” meddai Zakia Soman, cyd-sylfaenydd Mudiad Merched Mwslimaidd India, a oedd yn rhan o’r frwydr yn erbyn y talaq triphlyg.

“Rydyn ni, ferched Mwslimaidd, yn haeddu cyfiawnder gan y llysoedd, yn ogystal â chyfiawnder yn y cyfansoddiad hefyd.”

Mae mwy nag ugain o wledydd Mwslimaidd, yn cynnwys Pacistan a Bangladesh, eisoes wedi gwahardd yr arfer. Ond, yn India, roedd y talaq triphlyg wedi para oherwydd bod gan gymunedau Mwslimiaid, Cristnogion a Hindw yr hawl i ddilyn cyfraith grefyddol ym meysydd priodas, ysgariad, etifeddiaeth a mabwysiadu.