Ymosodiad Awst 18 ar ddinas Barcelona (Llun: PA)
Mae’r dyn y mae’r awdurdodau’n chwilio amdano yn dilyn yr ymosodiadau brawychol yn Catalunya, wedi’i enwi.

Younes Abouyaaqoub oedd gyrrwr y fan a laddodd 13 o bobol yn Las Ramblas, Barcelona yr wythnos ddiwethaf.

Mae wedi’i ddisgrifio fel dyn 22 oed a’i deulu’n hanu o Morocco. Y gred ydi mai fo ydi’r unig aelod o’r gell o ddwsin o ddynion yn Barcelona sy’n dal yn fyw, a’i fod wedi dianc i Ffrainc ar droed.

Fe gafodd 14 o bobol eu lladd, a 130 o bobol eraill eu hanafu, yn yr ymosodiadau yn Barcelona ac yn nhref glan y mor Cambrils.

Fe ddaw’r cyhoeddiad hwn heddiw wrth i’r heddlu ymchwilio i honiadau fod y dynion wedi’u radicaleiddio gan imam oedd â chysylltiadau â Madrid.