Glen Campbell
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r canwr gwlad Glen Campbell, sydd wedi marw’n 81 oed.
Roedd yn dioddef o gyflwr Alzheimer.
Dywedodd Dolly Parton fod ganddo “un o’r lleisiau gorau erioed”, ac yntau’n fwyaf adnabyddus am ei ganeuon Rhinestone Cowboy a Wichita Lineman.
Enillodd naw gwobr Grammy yn ystod ei yrfa, ac fe ddaw ei farwolaeth ddeufis yn unig ar ôl cyhoeddi ei albwm olaf, Adios, a gyrhaeddodd rhif tri yn siartiau gwledydd Prydain.
“Roedd Glen Campbell yn arbennig am ei fod e mor dalentog,” meddai’r gantores, Dolly Parton. “Mae Glen yn un o’r lleisiau gorau fuodd yn y diwydiant ac roedd e’n un o’r cerddorion gorau.
“Roedd e’n gerddor sesiwn hyfryd hefyd – dydy llawer o bobol ddim yn sylweddoli ond roedd e’n gallu chwarae unrhyw beth a’i chwarae’n dda iawn – felly roedd e jyst mor eithriadol o ddawnus.”
Gyrfa
Roedd Glen Campbell hefyd yn adnabyddus am ei ganeuon ‘Honey Come Back’, ‘All I Have To Do Is Dream’ a’r gân ‘Southern Nights’, y trac sain ar gyfer y ffilm Guardians Of The Galaxy Vol 2.
Roedd e hefyd yn actor medrus oedd wedi ymddangos yn y ffilm True Grit ochr yn ochr â John Wayne, ac fe ymddangosodd yn y gyfres Players.
Teyrnged y teulu
Mewn datganiad ar ei wefan, dywedodd ei deulu ei fod e wedi cael “brwydr hir a dewr yn erbyn clefyd Alzheimer”.
Mae’n gadael gwraig, wyth o blant, deg o wyrion a gor-wyrion, tair chwaer a dau frawd.
Maen nhw wedi gofyn am gyfraniadau i Gronfa Goffa Glen Campbell drwy law sefydliad BrightFocus.