Rio de Janeiro
Mae adroddiadau fod dynion arfog wedi tanio gynnau at deulu o wledydd Prydain  tra’r oedden nhw ar wyliau ym Mrasil, a bod un ddynes wedi’i hanafu.

Yn ôl Heddlu Brasil roedd cwpwl a thri o blant yn teithio yn Angra dos Reis, cyrchfan wyliau boblogaidd tua 90 milltir o Rio de Janeiro.

Mae adroddiadau’n honni fod car wedi gyrru atyn nhw gan ddweud iddyn nhw fynd o’r ffordd cyn dechrau saethu.

Mae datganiad yr heddlu yn nodi fod y ddynes wedi’i tharo yn ei abdomen ac yn cael ei thrin yn yr ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor – “rydym mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol yn Angra dos Reis, Brasil, yn dilyn adroddiadau o saethu dinesydd Prydeinig.”