Mae’r dyn a fu’n rhan allweddol o ddatblygu parciau thema Disney, wedi marw.

Roedd Martin A Sklar yn 83 oed ac yn byw yn Hollywood, Los Angeles, ac wedi bod yn rhan o ddatblygu pob un o barciau Walt Disney ar hyd a lled y byd.

O’r Disneyland gwreiddiol yn Ne Califfornia yn 1955, i’r Disney Resort agorwyd yn Shanghai y llynedd, roedd yn ddolen gyswllt rhwng y cwmni heddiw a’i sylfaenydd.

“Roedd popeth ynghylch Marty yn eich atgoffa o’r pethau gorau am weledigaeth Disney,” meddai prif weithredwr y cwmni, Bob Iger.  “Roedd ei wreiddioldeb yn lliwgar a bywiog, roedd yn ddyn optimistaidd, yn ogystal â bod yn ddigyfaddawd wrth anelu at berffeithrwydd.

“Roedd hefyd yn gysylltiad pwerys gyda Walt ei hun.”