Mae’r Tŷ Gwyn wedi cadarnhau i’r Unol Daleithiau gynnal trafodaethau ag Arlywydd Rwsia ddwywaith yn ystod cyfarfod G20 y mis diwethaf.

Cafodd cyfarfod swyddogol ei gynnal rhwng Donald Trump a Vladimir Putin yn ystod y G20, ond mae wedi dod i’r amlwg bellach hefyd i’r arlywyddion gael sgwrs anffurfiol arall yn ystod pryd preifat rhwng arweinyddion .

Dyw hi ddim yn glir am faint y parodd yr ail sgwrs, na’r hyn gafodd ei drafod, ond mae Donald Trump wedi amddiffyn y sgwrs a’r pryd bwyd ar wefan Trydar.

“Mae’r stori newyddion ffug am bryd bwyd cyfrinachol â Putin yn hurt. Roedd pob arweinydd a’u gŵyr/gwragedd wedi’u gwahodd,” meddai.

Mae swyddogion cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau wedi cyhuddo Rwsia o ymyrryd yn etholiad arlywyddol 2016 ac o gynorthwyo Donald Trump.