Mae nifer y ffoaduriaid y mae America wedi eu derbyn i mewn i’r wlad eleni, wedi cyrraedd 50,000.

Fydd hynny ddim yn rhwystro mwy o ffoaduriaid rhag cael mynediad i’r Unol Daleithiau dros y misoedd nesaf, ond fe fyddan nhw bellach yn wynebu mesurau llymach. 50,000 ydi’r ddogn a gafodd ei phennu gan Donald Trump, pan ddaeth yn Arlywydd.

Yn ôl dyfarniad gan y Goruchaf Lys y mis diwethaf, mae’n rhaid i’r llywodraeth ganiatáu i ffoaduriaid ychwanegol ddod i mewn os gallan nhw brofi bod ganddyn nhw “berthynas go iawn” â rhywun sydd eisoes yn byw yn y wlad.

Roedd hynny’n rhan o ddyfarniad ehangach a adawodd yr Arlywydd Trump i weithredu ei waharddiad teithio yn rhannol, gan effeithio ar chwe gwlad Mwslemaidd.

Bydd y ffoaduriaid ychwanegol hefyd yn gorfod profi bod ganddyn nhw swydd yn aros iddyn nhw neu le mewn coleg neu brifysgol.

Yn 2016, fe wnaeth yr Unol Daleithiau roi lloches i tua 85,000 o ffoaduriaid ac yn flwyddyn flaenorol, daeth 70,000 i’r wlad.

Mae’n debyg y bydd cap newydd yn cael ei osod cyn mis Hydref, pan fydd y flwyddyn gyllidebol yn dod i ben, ond dydy hi ddim yn glir bydd fydd y nifer.