Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA4.0)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi beirniadu Gogledd Corea o fod yn  “gyfundrefn greulon” yn dilyn marwolaeth myfyriwr o America oedd wedi bod dan glo yno am dros 17 mis.

Roedd Otto Warmbier, 22, wedi dychwelyd  i’r Unol Daleithiau ar Fehefin 13 a bu farw ddydd Llun wedi cyfnod o fod mewn coma – nid yw achos ei farwolaeth yn glir ar hyn o bryd.

Cafodd ei farnu’n euog o ddwyn baner bropaganda ym mis Mawrth y llynedd yn ystod taith i Ogledd Corea, a’i ddedfrydu i 15 mlynedd dan glo. Yn ôl ei deulu roedden nhw wedi cael gwybod ei fod wedi bod mewn coma yn fuan ar ôl cael ei ddedfrydu.

Yn ôl Gogledd Corea roedd Otto Warmbier wedi bod mewn coma ar ôl cael ei heintio gyda botwliaeth ond yn ôl doctoriaid yn Cincinnati doedd dim symptomau gyda’r myfyriwr.

Dywedodd yr Arlywydd Trump: “Mae llawer o bethau drwg wedi digwydd ond o leiaf wnaethon ni ei gael e adref i fod gyda’i rieni.”

Mae tri Americanwr yn parhau i fod dan glo yng Ngogledd Corea, ac mae’r wlad wedi cyhuddo’r Unol Daleithiau o anfon ysbiwyr i danseilio eu llywodraeth.