Mae adroddiadau fod dyn 22 oed o’r Unol Daleithiau ‘mewn coma’ ar ôl cael ei ryddhau o garchar yng Ngogledd Corea lle’r oedd yn treulio 15 mlynedd dan glo.

Yn ôl rhieni Otto Warmbier, roedd y myfyriwr wedi bod mewn coma ers misoedd gydag adroddiadau iddo syrthio i goma yn fuan ar ôl mis Mawrth 2016.

Dyna pryd cafodd y dyn sy’n wreiddiol o Cincinnati yn Ohio ei ddedfrydu i 15 mlynedd dan glo a llafur caled ar ôl cyfaddef iddo geisio dwyn baner propaganda o’r wlad.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Rex Tillerson, sicrhau ei fod yn cael ei ryddhau gan ddweud na fyddent yn gwneud sylwadau pellach am ei gyflwr o ganlyniad i faterion preifat.

Cadarnhaodd swyddog gweinyddiaeth tramor Gogledd Corea ei fod wedi’i ryddhau ac wedi gadael y wlad ar fore dydd Mawrth.

Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi condemnio’r ddedfryd yn ei erbyn gan gyhuddo Gogledd Corea “o ddefnyddio carcharorion America fel gwystlon gwleidyddol.”