Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, (Llun: PA/Thibault Camus)
Mae’r canlyniadau diweddaraf o Ffrainc yn awgrymu bod plaid yr Arlywydd Emmanuel Macron wedi sicrhau llwyddiant sylweddol yn rownd gyntaf yr etholiadau seneddol yn y wlad.

Mae ei blaid En Marche! wedi ennill un rhan o dair o’r bleidlais ac mae’r polau’n darogan y gallai sicrhau mwyafrif sylweddol yn rownd derfynol y bleidlais.

Bwriad Emmanuel Macron, 39, oedd cael gwared a’r hen wynebau gan gyflwyno nifer o ymgeiswyr sydd heb unrhyw brofiad gwleidyddol o gwbl.

Mae’r gwrthbleidiau’n poeni y gallai ennill mwyafrif mor sylweddol fel bod modd iddo lywodraethu Ffrainc bron yn ddiwrthwynebiad yn ystod ei gyfnod o bum mlynedd wrth y llyw.