Cyn-arweinydd Panama, Manuel Noriega, (Llun: AP)
Mae cyn-arweinydd Panama Manuel Noriega wedi marw yn 83 oed.

Cafodd ei ddisodli fel arweinydd y wlad yn dilyn cyrch gan yr Unol Daleithiau yn 1989.

Dywedodd Arlywydd Panama Juan Carlos Varela ar ei gyfrif Twitter bod “marwolaeth Manuel A Noriega yn cau pennod yn ein hanes” a bod ei deulu “yn haeddu galaru mewn heddwch.”

Cafodd Manuel Noriega ei garcharu am 17 mlynedd yn yr Unol Daleithiau am droseddau’n ymwneud a chyffuriau a’i estraddodi’n ddiweddarach i wynebu cyhuddiadau yn Ffrainc.

Fe dreuliodd ei flynyddoedd olaf mewn carchar yn Panama am lofruddio gwrthwynebwyr gwleidyddol yn ystod ei arweiniad rhwng 1983 a 1989.

Ar ôl i Manuel Noriega gael ei ddisodli fe fu newidiadau mawr yn Panama, gyda Chamlas Panama, a oedd wedi bod o dan reolaeth yr Unol Daleithiau,  yn cael ei rhoi yn ôl yn nwylo’r wlad yn 1999.

Mae’n gadael gwraig Felicidad, a thair merch, Lorena, Thays a Sandra.