Kim Jong-un (Llun: PA)
Mae Gogledd Corea yn barod i gynnal trafodaethau â’r Unol Daleithiau er gwaetha’r tyndra rhwng y ddwy wlad, yn ôl adroddiadau yn Ne Corea.

Ddechrau’r mis, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump y byddai’n “anrhydedd” cael cyfarfod ag arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong-un.

Fe fu tyndra rhwng y ddwy wlad ers rhai misoedd oherwydd rhaglen taflegrau a niwclear Gogledd Corea.

Ond bellach, mae lle i gredu y gallai trafodaethau rhwng Pyongyang a Washington ddigwydd “o dan yr amodau cywir”.

Cyfaddawdu

Yn ôl adroddiadau, dim ond pe bai Gogledd Corea yn cyfaddawdu tros eu rhaglen niwclear y byddai’r trafodaethau’n digwydd.

Mae Gogledd Corea wedi cynnal nifer o brofion ar daflegrau’n ddiweddar, sydd wedi codi gwrychyn yr Unol Daleithiau.

Maen nhw wedi ymateb drwy ddanfon llongau rhyfel i Dde Corea i sefydlu system wrth-daflegrau.