Cwch yn cludo ffoaduriaid oddi ar arfordir yr Eidal (Llun: PA)
Mae ofnau bod bron i 250 o bobl wedi marw neu ar goll yn dilyn dau longddrylliad ym Mor y Canoldir yn ystod y dyddiau diwethaf, yn ôl asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR).

Dywedodd UNHCR bod asiantaeth arall, International Medical Corps, wedi adrodd bod llongddrylliad oddi ar arfordir Libya ddydd Sul gyda 163 o bobl ar goll ac ofnau eu bod wedi marw.

Cafodd dynes a chwe dyn eu hachub gan Wylwyr y Glannau yn Libya, meddai asiantaeth y Cenhedloedd Unedig.

Mewn digwyddiad ar wahân mae 82 o bobl ar goll ar ôl i gwch rwber, oedd yn cludo 132 o bobl, suddo.  Cafodd tua 50 o bobl eu hachub a’u cludo i Pozzallo, yn Sicily.

Dywedodd UNHCR bod cyfanswm o fwy na 1,300 o bobl wedi diflannu, gydag ofnau eu bod wedi marw, wrth groesi Môr y Canoldir o Ogledd Affrica i’r Eidal eleni.