Emmanuel Macron a Marine Le Pen
Fe fydd Emmanuel Macron a Marine Le Pen yn mynd ben-ben heno yn eu hunig ddadl deledu cyn yr etholiad arlywyddol yn Ffrainc.

Mae disgwyl i’r ddadl bara dros ddwy awr heno wrth i’r naill a’r llall amlinellu eu blaenoriaethau cyn yr etholiad ddydd Sul.

Dyma’r tro cyntaf erioed i ymgeisydd y Front National gymryd rhan mewn dadl deledu. Yn 2002, gwrthododd Jacques Chirac gymryd rhan mewn dadl â Jean-Marie Le Pen, tad Marine.

Emmanuel Macron ar y blaen

Ar hyn o bryd, mae polau’n awgrymu mai Emmanuel Macron, yr ymgeisydd sydd o blaid yr Undeb Ewropeaidd, sydd ar y blaen i’w wrthwynebydd asgell dde gwrth-Undeb Ewropeaidd.

Mae Emmanuel Macron eisoes wedi cael ei feirniadu am ddathlu ei fuddugoliaeth ar ôl y rownd gyntaf ar Ebrill 23, ac yntau’n dal i geisio perswadio pleidleiswyr ar yr adain chwith na ddylen nhw gael eu troi oddi wrtho oherwydd ei gefnogaeth i fusnesau a’i safbwyntiau rhyddfrydol.

Mae disgwyl i Marine Le Pen atgyfnerthu ei safbwyntiau am ddiogelwch y wlad a hunaniaeth Ffrancwyr, sydd fel arfer yn cynnwys rhethreg gwrth-Islamaidd.

Fe fydd y ddau ymgeisydd hefyd yn ceisio denu cefnogaeth un arall o’r ymgeiswyr, Jean-Luc Melenchon ar ôl iddo adael y ras.