Bethan Gwanas
Mae awdures Gymraeg wedi anfon cwyn i’r Weinyddiaeth Amddiffyn am y modd y mae awyrennau rhyfel yn hedfan yn isel dros ei chartre’ ym Meirionnydd.

Mae Bethan Gwanas yn dweud fod yr awyrennau’n teithio o gyfeiriad y dyffryn uwchben Llyn Tegid ac yn hedfan dros ei thŷ yn Rhydymain ger Dolgellau yn “gymharol reolaidd” – ond mae’r hedfan isel wedi bod yn “waeth na’r arfer” yn ddiweddar.

“O’n i’n teimlo fel bod y rhain bron yn sgimio fy simnai,” meddai Bethan Gwanas wrth golwg360. “Mae’n uffernol pan maen nhw’n hedfan mor isel â hynna.

“Pan mae mor isel â hynna, ti’n teimlo’n sâl, mae’n afiach. Mae’n sioc gorfforol ac mae’n brifo yn gorfforol.

“Dyna’r tro cyntaf i mi brofi’r boen gorfforol yna,” meddai wedyn. “Maen nhw’n mynd ar dy nerfau di, maen nhw’n niwsans, maen nhw’n dy ddychryn di… ond pan mae’n brifo chdi yn gorfforol oherwydd pa mor agos maen nhw, dw i ddim yn gwybod sut i ddisgrifio fo. Mae’n rhoi cur pen i ti trwy’r dydd.

“Yn fy nghwyn mi ddywedais: ‘…it felt as though my eyeballs were going to explode. Mae’n dy wylltio di. Dw i’n cofio’n nith fach i ers talwm, ddaru hi ddychryn gymaint yn yr ardd, ddaru hi ddisgyn ac oedd hi gorfod cael pwythau yn ei thalcen.”

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymateb trwy ddweud y bydd yn “ymdrin â’r mater ac yn ymateb o fewn ugain diwrnod”.

Dinas Mawddwy yn ’darged’

Mae’r storiwraig a’r gantores werin, Mair Tomos Ifans, hefyd wedi ymateb i’r cyfnod diweddar o hedfan isel, trwy ddweud ei bod hithau hefyd wedi profi’r boen gorfforol y mae Bethan Gwanas yn cyfeirio ati.

Mae hithau wedi cwyno “sawl gwaith” yn y gorffennol, ond wedi rhoi’r gorau iddi oherwydd “does dim yn cael ei wneud”.

Ond mae’n mynd yn bellach y tro hwn, gan ddweud ei bod yn teimlo fod pentref Dinas Mawddwy, lle mae hi a’i theulu’n byw, yn cael ei ddefnyddio fel “targed”.

“Maen nhw mor mor isel, ac mor mor swnllyd, mae rhywun yn teimlo nhw trwy eu cyrff i gyd,” meddai Mair Tomos Ifans wrth golwg360. “Mae’r cryndod yna maen nhw’n greu yn creu’r teimlad yna mae rhywun yn cael cyn rhywbeth ofnus.

“Ac mae’n gallu fy ngwneud i’n llythrennol sâl,” meddai wedyn. “Mae’n gwneud i mi daflu i fyny weithiau. Mae o yn cael effaith negyddol iawn ar iechyd, a does dim ots gen i os mae pobol yn trio dweud fel arall.”

“Mae problem yr awyrennau wedi gwaethygu yn sicr yn ddiweddar, ac fel un sy’n gweithio o adre’, mi fydda’ i yn aml yn gorfod gadael y tŷ er mwyn cael heddwch ac i osgoi’r sŵn.”