Baner De Corea
Mae chwech o bobl wedi marw a 22 o rai eraill wedi’u hanafu ar ôl i graen ddymchwel yn iard longau Samsung Heavy Industries yn Ne Corea.

Dywedodd y cwmni adeiladu llongau bod timau achub yn dal i chwilio am bobl a allai fod yn gaeth ar ôl i’r craen 32 tunnell ddisgyn ar long yn ei iard ar ynys Geoje.

Roedd y craen wedi gwrthdaro a chraen arall cyn dymchwel ar y llong, meddai’r cwmni.

Roedd y rhai gafodd eu lladd yn weithwyr a oedd wedi’u cyflogi gan isgontractwyr Samsung. Mae tri o’r 22 o bobl a gafodd eu hanafu wedi cael anafiadau difrifol.