Mae Senedd yr Almaen wedi rhoi sêl bendith i gynnig gan y llywodraeth i wahardd staff y sector gyhoeddus rhag gwisgo fêls sy’n gorchuddio’r wyneb yn y gweithle.

Fe gafodd y cynnig ei wneud gan swyddogion diogelwch oedd yn dadlau bod gwisgo fêl yn peryglu niwtraliaeth mewn ysgolion, llysoedd a llefydd eraill lle’r oedd angen gweld pwy oedd y swyddog dan sylw.

Mae’r gwaharddiad yn berthnasol i filwyr hefyd.

Mae gwrthwynebwyr yn cwyno bod y gwaharddiad yn un symbolaidd yn unig, gan ddweud nad oes bron dim swyddogion yn y sector gyhoeddus sy’n gwisgo fêls o’r fath.