Mae plismon wedi cael ei saethu’n farw a dau berson wedi’u hanafu yn dilyn ymosodiad yng nghanol Paris neithiwr.

Fe ddaeth yr ymosodwr allan o gar a dechrau saethu at blismyn yng nghanol ardal y Champs-Elysee,s cyn cael ei saethu’n farw gan swyddogion yr heddlu.

Mae awdurdodau yn meddwl mai Islamydd radical oedd y saethwr, ac mae grŵp brawychol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn honni mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae’n debyg bod y saethwr wedi bod dan sylw’r heddlu yn y gorffennol oherwydd ei fod yn arddel daliadau eithafol.

Yn dilyn yr ymosodiad cafodd y rhodfa enwog ei chau, ac mae heddlu Ffrainc yn cynnal ymchwiliad sydd wedi’i ganoli yn un o faestrefi Paris.

Daw’r ymosodiad ond ychydig ddyddiau cyn rownd gyntaf etholiad arlywyddol Ffrainc, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Sul (Ebrill 23).