Mae 125 o ffoaduriaid wedi cael eu hachub oddi ar arfordir Sbaen ar ôl ceisio croesi o Affrica.
Cafwyd hyd i dri cwch yn gynnar y bore ma.
Sbaen
Roedd y cwch cyntaf yn cludo 41 o ddynion ac 11 o fenywod.
Yn yr ail gwch, roedd 62 o ddynion ac 11 o blant o ogledd Affrica.
Cafodd 11 o ffoaduriaid eu hachub o drydydd cwch ar ôl i awyren Nato roi gwybod i awdurdodau Sbaen.
Rhwng dydd Iau a dydd Gwener, cafodd 73 o ffoaduriaid eu hachub gan gychod Sbaen.
Ddydd Mercher, bu farw merch 10 oed a dau oedolyn ar ôl i’w cwch suddo ym Môr y Canoldir.