Difrod y llifogydd yn Colombia (llun: PA)
Mae’r awdurdodau yn Colombia wedi rhoi’r gorau i chwilio am bobl sy’n dal ar goll wedi’r llifogydd a’r tirlithriadau yno’r wythnos ddiwethaf.

Cafodd o leiaf 314 o bobl eu lladd, ac mae 106 yn dal ar goll.

Fe fydd y gweithwyr argyfwng yn canolbwyntio ar sicrhau bwyd a diod a gofal meddygol i drigolion dinas Mocoa yn ne’r wlad, sydd heb ddŵr na thrydan a lle mae perygl o heintiau.

“Er y gall rhywun aros yn fyw am gyfnod hir, mae’r holl fwd a chreigiau yn Mocoa yn gwneud hyn yn anodd iawn,” meddai Manuel Infante, un o arweinwyr yr achubwyr.

“Fe fyddwn i’n dweud bod y rhai sydd ar goll wedi marw.”

Dywedodd Luis Carlos Villegas, gweinidog tramor y wlad, y byddai’n cymryd cenhedlaeth i adfer y ddinas yn llwyr.