Mae beth bynnag 22 o bobol wedi’u lladd mewn ymosodiadau gan hunanfomwyr yn Tikrit, i’r gogledd o ddinas Baghdad.

Mae’r awdurdodau yn dweud fod pump o fomiau wedi ffrwydro wrth i bump hunanfomiwr dargedu patrol gan yr heddlu yn nhalaith Salahuddin.

Fe gafodd tri o’r bomwyr eu saethu’n farw gan luoedd diogelwch, tra bod dau wedi’u chwythu eu hunain i fyny.

Ymhlith y meirwon mae deg o blismyn, ac fe gafodd 31 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad.

Does yr un grwp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.