Bydd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn cynnal cyfarfod brys heddiw er mwyn ymateb i ymosodiad cemegol mewn tref yng ngogledd Syria ddydd Mawrth.

Bu farw o leia’ 58 o bobol gan gynnwys 11 o blant yn nhref Khan Sheikhoun yn dilyn yr ymosodiad, yn ôl Arsyllfa Hawliau Dynol y Deyrnas Unedig yn Syria.

Mae’r Unol Daleithiau wedi beio Llywodraeth Syria am yr ymosodiad ac wedi dweud bod Rwsia ac Iran yn rannol gyfrifol.

Yn ôl Gweinyddiaeth Amddiffyn Rwsia ffrwydrad arfau cemegol y gwrthryfelwyr yn dilyn ymosodiad o’r awyr wnaeth achosi’r trychineb.

Mae Llywodraeth Syria wedi gwrthod y cyhuddiadau ac wedi mynnu mai gwrthryfelwyr sydd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Dyma’r trydydd ymosodiad cemegol honedig yn Syria mewn wythnos – mae’n debyg bu dau ymosodiad yn nhalaith Hama.