Dyn yn cario plentyn i ysbyty dros dro wedi ymosodiad cemegol honedig yn Idlib (Llun: (Edlib Media Center/AP)
Mae adroddiadau bod o leiaf 58 o bobol wedi’u lladd yn yr hyn sy’n cael ei ystyried yn ymosodiad cemegol mewn tref yn nhalaith ogleddol Syria.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn nhref Khan Sheikhoun yn nhalaith Idilb, ac mae lluniau’n dangos plant ac oedolion yn dioddef o anawsterau anadlu.

Yn ôl Arsyllfa Hawliau Dynol y Deyrnas Unedig yn Syria mae cymaint â 58 wedi marw, gan gynnwys 11 o blant, gyda Chanolfan Cyfryngau Idlib yn adrodd fod dwsinau wedi marw o’r fogfa.

Maen nhw’n honni bod yr ymosodiad o’r awyr wedi ei gynnal un ai gan Lywodraeth Syria neu awyrennau rhyfel Rwsia.

Mae Llywodraeth Rwsia wedi gwrthod honiadau bod eu hawyrennau wedi ymosod ar y dref gydag arfau cemegol.

Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu Llywodraeth Syria wedi disgrifio’r ymosodiad fel un o’r rhai gwaethaf ers i’r rhyfel cartref ddechrau chwe blynedd yn ol.

Mae Prydain a Ffrainc wedi galw am gyfarfod brys o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Mae disgwyl i’r cyngor gynnal cyfarfod misol ynglŷn ag arfau cemegol Syria ddydd Mercher ond fe allai’r cyfarfod gael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw yn lle.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May, sydd ar ymweliad a’r Dwyrain Canol, wedi galw am ymchwiliad i’r digwyddiad ac wedi condemnio’r ymosodiad.

Mae hi wedi galw ar Rwsia i sicrhau bod llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad yn dod i ben.