Mae un person wedi marw a 15 o bobol wedi’u hanafu yn dilyn achos o saethu mewn clwb nos yn Cincinnati yn Ohio.

Mae lle i gredu bod yr ymosodiad wedi digwydd am oddeutu 2 o’r gloch y bore yng nghlwb nos Cameo y ddinas.

Cafodd y dioddefwyr eu cludo i bedwar o ysbytai’r ardal.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ond dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau a ydyn nhw wedi arestio unrhyw un.