Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Mae Cyfarwyddwr yr FBI, James Comey wedi gwrthod cyhuddiad Arlywydd yr Unol Daleithiau eu bod wedi clustfeinio ar ei sgyrsiau yn ystod yr ymgyrch Arlywyddol.

Trodd Donald Trump at drydar ddydd Sul gan gyhuddo’r cyn-Arlywydd, Barack Obama, o fod wedi ceisio tanseilio ei ymgyrch arlywyddol trwy orchymyn yr asiantaethau cudd wybodaeth i glustfeinio ar sgyrsiau ffôn yn Trump Tower yn Efrog Newydd.

Mae’r Arlywydd wedi galw ar Gyngres y wlad i’w cynorthwyo i ddod o hyd i dystiolaeth i gefnogi ei honiadau ac mae pennaeth y wasg yn y Tŷ Gwyn wedi galw ar bwyllgorau’r gyngres i ymchwilio i’r adroddiadau “sy’n peri gofid.”

Mae James Comey wedi galw ar yr Adran Gyfiawnder i herio’r cyhuddiad gan ei fod yn awgrymu bod yr FBI wedi torri’r gyfraith.

Yn ôl cyn-ysgrifennydd y wasg Barack Obama, Josh Earnest, nid oes gan arlywyddion yr awdurdod i ganiatáu ymgyrch cudd wybodaeth o’r fath ac mae wedi cyhuddo Donald Trump o dynnu sylw oddi ar gyhuddiadau o gysylltiadau rhwng aelodau o’i ymgyrch arlywyddol â Rwsia.