Mae llifogydd wedi lladd 246 o bobol ers mis Rhagfyr, a 2,000 arall yn ddigartref.

Bellach mae llywodraeth y wlad wedi apelio ar y gymuned ryngwladol am £81.5 miliwn i helpu’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd sydd wedi sgubo ffyrdd a phontydd o’r neilltu ac ynysu rhai cymunedau.

Glaw trwm sydd wedi achosi’r llifogydd sydd wedi creu’r difrod.

Eisoes mae llywodraeth y wlad yn brin o arian ac yn ei chael hi’n anodd talu cyflogau gweithwyr y sector gyhoeddus yno.

A’r wythnos hon mae  miloedd o nyrsys ysbytai’r wlad wedi bod yn streicio dros dâl, gan waethygu’r sefyllfa mewn ysbytai sydd eisoes yn brin o adnoddau.

Mae meddygon ar streic ers Chwefror 15, gan orfodi’r llywodraeth i anfon meddygon y fyddin a’r heddlu i ofalu am rieni.

Mae Arlywydd Zimbabwe, Robert Mugabe, yn Singapore yn derbyn gofal meddygol.