SpaceX wedi trefnu taith o gwmpas y lleuad Llun: PA
Mae cwmni preifat SpaceX wedi cyhoeddi eu bod am anfon dau berson ar daith o gwmpas y lleuad.

Er nad yw pris tocyn y siwrnai wedi ei ddatgelu mae’n debyg fydd y daith -y cyntaf o’i fath ers hanner canrif – yn parhau am wythnos.

Bydd y pâr yn teithio heibio’r lleuad ac yna rhyw 300,000 i 400,000 milltir i ddyfnderoedd y gofod cyn dychwelyd am adre.

Bydd y daith i’r lleuad yn unig yn 240,000 o filltiroedd ac ni fydd y teithwyr yn glanio ar ei wyneb.

Gobaith y cwmni yw cynnal lansiad y roced  yn nhalaith Florida tua diwedd 2018.