Mae canolfan siopa newydd sbon – sy’n cynnwys siopau cadwyn, siop lyfrau sy’n ymestyn tros dri llawr, ynghyd â chyntedd yn llawn caffis a bwytai – wedi agor yn Llain Gaza.
Mae adeiladu’r Capital Mall a’i 19,000 troedfedd sgwar o siopau, wedi golygu goresgyn blocâd gan Israel a’r Aifft. Ond pwysicach fydd gallu goresgyn y tlodi affwysol yn yr ardal, a dod o hyd i siopwyr i wario eu harian prin.
Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwya’ o’r nwyddau sy’n cael eu gwerthu yn Gaa yn dod dros y ffin o Israel, gan mai ychydig iawn o bethau sy’n cael eu cynhyrchu yn Gaza ei hun.
Mae’r ganolfan siopa, yn debyg iawn i weddill tir Gaza, angen generadur trydan i gynnal y pwer.
Croeso i’r ganolfan newydd
Yn y tymor byr, mae Capital Mall i weld yn ffynnu. Mae miloedd o bobol Gaza wedi bod yno’n gweld y lle newydd, gan weld siopau esgidiau a dillad y gadwyn De Facto o Dwrci; anrhegion ac offer ar gyfer yr ysgol o siop lyfrau; neu’n bwyta byrgers, pitsa a hufen iâ o’r stondinau bwyd.
Ac mae pobol na fu erioed ar grisiau symudol o’r blaen, wedi dotio ar yr esgaladur sy’n eu cario o lawr i lawr.
Mae yno siopau hefyd sy’n gwerthu persawr a cholur; addurniadau i’r ty; a ffonau symudol. Mae yno hefyd glinigau iechyd, swyddfeydd, dau faes parcio, a chynlluniau i ddod ag archfarchnad yno.
Mae bron i 80% o’r ddwy filiwn o bobol sy’n byw yn Gaza heddiw, yn byw mewn tlodi. Mae dau o bob pump o bobol Gaza yn ddi-waith, a dim ond am wyth awr y dydd y mae gan gartrefi gyflenwad trydan, ar y gorau. Mae Israel a’r Aifft yn rhwystro pobol rhag teithio’n rhydd i mewn ac allan o Gaza.