Arwyddlun swyddogol Blwyddyn y Ceiliog
Heddiw yw diwrnod cyntaf Blwyddyn y Ceiliog ac mae miliynau o Chineaid yn dathlu ledled y byd.

Mae torfeydd anferth yn ymweld â phrif demlau Beijing, gyda disgwyl hyd at 80,000 o bobl yn nheml Lana yng nghanol y ddinas.

Mae lanteri coch yn addurno coed yno a nwyddau a bwydydd traddodiadol ar werth yn y parciau.

Roedd torfeydd anferth yn Hong Kong a Malaysia neithiwr, ac mae Efrog Newydd wedi nodi’r achlysur gydag arddangosfa tân gwyllt dros afon Hudson.