Y Pab Ffransis (Llun: PA)
Mae’r Pab Ffransis wedi galw am warchod ffoaduriaid yn dilyn y trychineb diweddaraf ar gwch ym Môr y Canoldir.
Suddodd cwch oddi ar arfordir Libya nos Sadwrn, ac mae lle i gredu mai dim ond pedwar o bobol oedd wedi goroesi allan o oddeutu 100.
Daw neges y Pab ar Ddiwrnod Ffoaduriaid yr Eglwys Gatholig Rufeinig.
Mae wyth o gyrff wedi cael eu darganfod, ac mae’r ymdrechion i ddod o hyd i ragor o bobol yn parhau.
Yn ei araith, tynnodd y Pab sylw at “ein brodyr ifainc” sy’n wynebu “cynifer o beryglon”.
“Rhaid i ni fabwysiadu pob mesur posib er mwyn sicrhau bod ffoaduriaid ifainc yn cael eu gwarchod a’u hamddiffyn, yn ogystal â’u hintegreiddio.”