Mae lle i gredu bod y llofrudd byd-enwog Charles Manson yn yr ysbyty yng Nghaliffornia, ond mae’r carchar yn gwrthod rhoi rhagor o fanylion.

Serch hynny, maen nhw’n dweud bod y llofrudd 82 oed yn dal yn fyw.

Dydy’r carchar yn Corcoran ddim wedi dweud a yw’n dal yno neu a yw e wedi cael ei gludo i’r ysbyty.

Cafodd y carcharor ei ganfod yn euog o lofruddio’r actores Sharon Tate a chwech o bobol eraill yn 1969, a’i ddedfrydu i farwolaeth.

Ond cafodd y ddedfryd ei gwyrdroi yn 1972 pan benderfynodd y Goruchaf Lys wahardd y gosb eithaf.

Cafodd ei gais diweddaraf am barôl, yn 2012, ei wrthod.

Ym mis Tachwedd, cafodd gwasanaethau gofal carchar Corcoran eu disgrifio fel rhai “annigonol”.