Mae heddlu dinas Cologne yn yr Almaen wedi dwyn cannoedd o ddynion “sy’n ymddangos i fod o dras Affricannaidd”, fel rhan o ymgyrch i rwystro ymosodiadau tebyg i’r rheiny yn y ddinas union flwyddyn yn ôl.

Fe ddaeth cadarnhad fod y dynion wedi cael eu harestio yn nwy o brif orsafoedd rheilffordd y ddinas – er mwyn i swyddogion gael eu holi a gwirio pwy yn union ydyn nhw.

Fe gafodd mwy na 1,500 o blismyn eu rhoi ar waith yn Cologne cyn dathliadau’r flwyddyn newydd, mewn ymateb i’r feirniadaeth fuodd pan fethon nhw â rhwystro cannoedd o ladradau ac ymosodiadau rhyw y llynedd – a’r mwyafrif o’r rheiny’n cael eu beio ar ddynion o dras gogledd Affrica.

Mae rhai o’r rheiny oedd yn dathlu yn y ddinas neithiwr, wedi bod yn cwyno ar wefan gymdeithasol Twitter oherwydd ei bod hi’n ymddangos fod pobol yn cael eu harestio ar sail eu pryd a gwedd yn unig.

Erbyn ben bore Sul, Ionawr 1, roedd dau adroddiad o ymosodiad rhyw ar fenywod yn Cologne, ac mae un dyn wedi’i arestio mewn perthynas â hynny.