Mae’r Pab wedi defnyddio ei neges Blwyddyn Newydd i rybuddio cymunedau rhag mynd yn galongaled ac yn oeraidd.

Fe ddywedodd wrth y gynulleidfa yn Basilica San Pedr fod y rheiny â chalonnau “Narsisistaidd” yn gweld eisiau’r hyn “sy’n ein clymu gyda’n gilydd” a’r syniad o berthyn i gymdeithas.

Mae angen mwy o dynerwch yn y byd, meddai Pab Ffransis, gan bwysleisio mai arwyddion o gryfder, ac nid gwendid, ydi hynny. Mae’r byd yn diodde’ o fod yn “amddifad yn ysbrydol”, meddai.