Mae hi eisoes yn 2017 yn Ynysoedd y De, gyda dathliadau yn Samoa, Tonga a Kiribati am 10 o’r gloch (GMT) y bore ma.

Bydd dathliadau yn Ynysoedd Chatham, rhannau o Seland Newydd ac Awstralia rhwng nawr ac 1 o’r gloch GMT.

Yn y cyfamser, mae disgwyl tân gwyllt yn Llundain am ganol nos heno, gyda’r heddlu a lluoedd arbennig yn barod ar gyfer unrhyw fygythiadau brawychol posib yn dilyn trychinebau yn Nice a Berlin eleni.

Bydd oddeutu 110,000 o bobol yn Llundain i wylio 12,000 o dân gwyllt yn yr awyr i groesawu’r flwyddyn newydd.

Fe fydd y sioe yn para 12 munud, gyda’r sêr a fu farw yn ystod 2016 – gan gynnwys David Bowie, Prince a Ronnie Corbett – yn cael eu coffáu.

Mae disgwyl i 80,000 o bobol heidio i Gaeredin ar gyfer dathliadau’r Hogmanay, sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw gan y Charlatans a Paolo Nutini.