Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i lofruddiaeth dyn 31 oed o dde Swydd Gaerloyw sydd â chysylltiadau ag Abertawe.

Cafwyd hyd i Mohammed Abdurezek yn Siston ar Noswyl Nadolig ar ôl iddo gael ei drywanu.

Mae lle i gredu bod yr heddlu’n chwilio’i gartref ger Bryste fel rhan o’r ymchwiliad.

Ond mae’r heddlu o’r farn iddo gael ei ladd mewn lleoliad arall, ac maen nhw wedi apelio am wybodaeth.