Mae beth bynnag ddeg o weithwyr wedi’u lladd, a 13 o weithwyr eraill yn dal yn sownd dan ddaear, wedi cwymp mewn pwll glo yn nwyrain India.

Mae cymylau o lygredd wedi rhwystro gweithwyr achub rhag cael mynediad i’r pwll yn nhalaith Jharkhand. Fe gafodd 23 o weithwyr eu riportio ar goll yn dilyn y cwymp, ond mae deg o gyrff bellach wedi’u tynnu allan o’r pwll.

Mae ardal Godda, lle mae’r pwll, rhyw 975 milltir i’r de-ddwyrain o ddinas Delhi Newydd. Mae’r pwll yn eiddo i lywodraeth y dalaith, ond yn cael ei rhentu allan i gontractiwr preifat.

Mae Jharkhand yn un o ardaloedd tlota’ India, ond mae’n gyfoethog mewn mwynau dan-ddaear.