Mae cyfres o ymosodiadau treisgar wedi parhau ym Mecsico dros gyfnod y Nadolig, wedi i chwech o bennau dynol gael eu canfod yn un o daleithiau’r wlad, ac i saith o bobol eraill gael eu llofruddio mewn ardal arall ar Ragfyr 25.

Mae swyddfa’r erlynydd yn nhalaith Michoaca wedi cadarnhau fod chwech o bennau dynol wedi’u canfod yn Jiquilpan, dinas sydd wedi’u rhannu rhwng gangiau cyffuriau dros y blynyddoedd diwetha’.

Yn y cyfamser, mae swyddogion yn nhalaith Guerrero gerllaw wedi cadarnhau fod dynion arfog wedi gorfodi eu ffordd i mewn i adeilad, gan ladd saith o bobol yn ninas Atoyac de Alvarez. Roedd pump o’r saith yn aelodau o’r un teulu, ac roedd dau’n briod.

Mae Guerrero yn un o’r taleithiau gwaetha’ o ran trais rhwng gangiau cyffuriau.