Dydy’r Unol Daleithiau ddim wedi sefyll yn ffordd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wrth iddyn nhw feirniadu Israel am dorri cyfreithiau rhyngwladol wrth ymosod ar Balesteina.

Dyma’r tro cyntaf ers rhai blynyddoedd i weinyddiaeth Barack Obama gymryd cam o’r fath yn erbyn un o’u cynghreiriaid agosaf, a hynny er gwaethaf apêl gan y darpar Arlywydd Donald Trump ar i’r Arlywydd presennol weithredu feto.

Pleidleisiodd y Cyngor Diogelwch o 14-0 o blaid beirniadu Israel, wrth i’r Unol Daleithiau atal eu pleidlais ac fe allai’r canlyniad beryglu grym Israel yn y dyfodol.

Dydy hi ddim yn debygol ychwaith y bydd Donald Trump yn gallu gwyrdroi’r bleidlais pan fydd yn dod yn Arlywydd yn y flwyddyn newydd.

Serch hynny, dywedodd Donald Trump ar Twitter y byddai “pethau’n wahanol ar ôl Ionawr 20”.