Llun: UNHCR
Mae confoi o ambiwlansys a bysys wedi dechrau cludo dinasyddion, gan gynnwys rhai sydd wedi eu hanafu,  o ddwyrain Aleppo yn Syria.

Dyma ddechrau’r broses o symud pobl o’r ardal olaf oedd ym meddiant y gwrthryfelwyr yn y ddinas.

Bydd confoi o gerbydau yn cludo’r dinasyddion i ardal wledig tu allan i’r ddinas.

Mae’n rhan o gadoediad a gafodd ei gytuno’r wythnos hon sy’n golygu bod gwrthryfelwyr yn ildio eu safle olaf yn Aleppo i lywodraeth Syria. Mae’n dilyn ymosodiadau o’r awyr ac ar y tir gan luoedd y llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf.

Mae’n nodi diwedd ar reolaeth y gwrthryfelwyr o ddwyrain Aleppo dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Roedd disgwyl i’r dinasyddion adael ddydd Mercher ond bu’n rhaid ei ohirio wedi cyfnod o frwydro.

Mae cannoedd o bobl wedi marw a degau o filoedd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi yn ystod ymgyrch llywodraeth Syria i ailsefydlu ei rheolaeth dros y ddinas.

Wrth alw ar Ewrop i anfon swyddogion i sicrhau diogelwch y dinasyddion dywedodd Arlywydd Ffrainc Francois Hollande: “Ni allwn adael i fenywod a phlant ddioddef bomio, bygwth eu diogelwch a’u trin mewn ffordd mor gywilyddus.”